Cwestiynau Cyffredin

Sut ydw i’n chwilio am air?

Teipiwch neu gopïwch air i’r blwch chwilio; pwyswch y dychwelwr (ENTER) ar eich bysellfwrdd.

Gallwch chwilio am ffurfiau treigledig, ffurfiau berfol, ffurfiau benywaidd ansoddeiriau, ffurfiau arddodiadol, ac ati. a chyfuniadau o’r rhain, e.e. (thery, felen, thanat.)

Os nad yw'ch dyfais yn darparu ffordd gynhennid o fewnbynnu llafariad ag acenion arnynt, teipiwch y llafariad a symbol yr acen ar wahân ac fe gânt eu cyfuno yn awtomatig, e.e. a^ => â; e/ => é; o\ => ò.

Gallwch chwilio am ystyr gair sy'n ymddangos o fewn unrhyw diffiniad drwy roi clic dwbl arno gyda'ch llygoden.


Beth os nad ydw i’n hollol sicr sut i sillafu’r gair?

Wrth i chi deipio yn y blwch chwilio bydd y rhestr ganlyniadau yn diweddaru ei hun. Cliciwch ar air yn y rhestr i neidio i’w ddiffiniad. Os ydych chi'n digwydd camsillafu gair wrth chwilio, bydd y Gweiadur yn cynnig rhestr o benawdau tebyg lle y gallwch ddod y hyd i'r sillafiad cywir. 


Beth yw pwrpas y tabiau "Cymraeg" a "Saesneg"? Oes rhaid dewis iaith cyn chwilio?

Does dim rhaid dewis iaith cyn dechrau chwilio, bydd y Gweiadur yn chwilio'r ddwy iaith, ond gyda gair fel "car", er enghraifft, gallwch neidio'n syth i'r cofnod priodol drwy ddewis yr iaith yn gyntaf.


A oes modd clywed gair yn cael ei ynganu?

Cliciwch ar yr uchelseinydd i glywed ynganiad y gair.


Sut mae dangos ffurfiau berfol a ffurfiau cymharol ansoddeiriau?

Cliciwch ar y bariau llwyd (+) i ddangos rhediad berfau ac arddodiaid, ac i gymharu ansoddeiriau. Cliciwch ar "Gweld mwy yn y Berfiadur" er mwyn dangos mwy o wybodaeth am Amserau a ffurfiau berfol.


Sut mae chwilio am ymadroddion a phriod-ddulliau?

Teipiwch brif air neu ran o ymadrodd i ddod o hyd i ymadroddion.


Beth yw'r Modd Dysgu a sut mae'n gweithio?

Mae'r Modd Dysgu yn cynnig mwy o wybodaeth ar gyfer plant a dysgwyr.

Dysgwch fwy am y Modd Dysgu yma.


Pa wybodaeth arall sydd yn y Gweiadur?

Cynigir cyngor gramadegol ar ddefnydd y gair o dan y pennawd "Sylwch:".

Tra bo’r diffiniad yn cynnig y cyfystyron Saesneg mwyaf arferol, mae’r botwm "Gweld mwy yn y Thesawrws" yn cynnwys mwy o ddewisiadau. Mae'r Thesawrws hefyd yn cynnig cyfystyron Cymraeg.

Dysgwch fwy am y gwahanol fathau o gofnodion sydd yn y Gweiadur yma.


Oes modd defnyddio’r Gweiadur heb lygoden?

Does dim rhaid symud y cyrchwr i’r blwch cyn dechrau, bydd yn symud yno wrth i chi deipio.

Os oes gair yn y blwch eisoes, bydd y gair yn cael ei ddileu wrth i chi gychwyn teipio. (I ychwanegu at y gair, pwysych → {SAETH I'R DDE}.)

Mae pwyso DELETE yn dileu cynnwys y blwch.