Polisi Preifatrwydd

Ymrwymwn i warchod eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn defnyddio'n gwasanaethau neu'n prynu ein cynnyrch. Pan fyddwch yn darparu gwybodaeth o'r fath yr ydym yn gyfreithiol-rwym i ddefnyddio'ch gwybodaeth yn unol â'r holl gyfreithiau sy'n berthnasol i warchod gwybodaeth bersonol gan gynnwys Deddf Gwarchod Data 1998. Mae'r polisi hwn yn esbonio sut y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth bersonol a gasglwn amdanoch wrth i chi ddefnyddio'n gwefan neu gysylltu â ni.

Pan fyddwch yn cofrestru, prynu, rhoi adborth, gwneud ymholiad neu gymryd rhan yn ein blog neu'n trafodaethau, byddwn yn derbyn gwybodaeth bersonol amdanoch. Gall hyn gynnwys pethau fel eich manylion cyswllt a dosbarthu, gwybodaeth dalu, neu'ch adborth.

Byddwn hefyd yn casglu gwybodaeth am eich defnydd o'n gwefan a sut y cyrhaeddoch at ein gwefan. Mae'r wybodaeth hon yn ein cynorthwyo i adnabod a blaenoriaethu'r  cynnwys sy'n boblogaidd gan ein cwsmeriaid.

Byddwn yn defnyddio gwybodaeth bersonol amdanoch i ddarparu'n gwasanaethau, prosesu'ch archeb, rheoli'ch cyfrif a, gyda'ch caniatâd, eich hysbysu am ein cynnyrch a'n gwasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Gallwn hefyd ddefnyddio'r wybodaeth hon i gyfoethogi'ch profiad fel defnyddiwr.

Cewch ddewis derbyn negeseuon e-bost am ein cynnyrch a'n gwasanaethau a all fod o ddiddordeb i chi. Os nad ydych am dderbyn y rhain mwyach, gallwch ddewis peidio.

Cadwn eich gwybodaeth bersonol yn gyfrinachol. Yr unig amgylchiadau pryd y byddwn yn rhannu eich manylion ag unrhyw un arall fydd lle mae datgelu yn angenrheidiol neu'n cael ei ganiatáu drwy gyfraith (er enghraifft â chyrff y llywodraeth ac asiantaethau cynnal y gyfraith).

Gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol i'ch atal rhag postio cynnwys anaddas neu sarhaus unrhyw fan ar ein gwefan, neu i'ch atal rhag ymddwyn mewn ffordd aflonyddgar.

Cadwn eich gwybodaeth bersonol ar ein systemau cyhyd ag sy'n angenrheidiol ar gyfer y weithgaredd berthnasol, neu tan i chi ganslo eich cofrestriad.

Yn unol â'r Ddeddf Gwarchod Data cewch wneud cais am gopi o'r wybodaeth personol yr ydym yn ei chadw amdanoch, ac i gywiro unrhyw gamgymeriadau. Hoffwn sicrhau bod eich gwybodaeth bersonol yn gyfredol ac yn gywir. Hysbyswch ni os ydych yn meddwl nad yw felly.

Os hoffech gopi o ran o'r wybodaeth yr ydym yn ei chadw amdanoch, neu'r cyfan, ysgrifennwch atom. (Cadwn yr hawl i godi ffi weinyddu am geisiadau am wybodaeth a gofynnwn am 2 eitem gydnabyddedig o dystiolaeth adnabod.)

Gall y wefan hon gynnwys dolenni at wefannau trydydd parti ac fe fydd gan y gwefannau hynny bolisïau preifatrwydd a pholisïau briwsion eu hunain. Mae'r polisi hwn ond yn berthnasol i'n gwefan ni. Ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am eich defnydd o unrhyw wefannau eraill.

Os ydych yn 16 oed neu'n iau, sicrhewch ganiatâd eich rhiant/gwarcheidwad cyn ein darparu ag unrhyw wybodaeth bersonol. Peidiwch â rhannu unrhyw wybodaeth bersonol gyda ni heb y caniatâd hwn.

Gallwn ddiweddaru ein polisi preifatrwydd o dro i dro a byddwn yn gosod unrhyw newidiadau ar y dudalen we hon. Os oes newid materol i'r polisi byddwn yn eich hysbysu drwy osod neges amlwg ar ein gwefan.

Os hoffech wybodaeth bellach am sut y byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth, sut y byddwn yn cynnal diogelwch eich gwybodaeth a'ch hawl i weld yr wybodaeth a gadwn amdanoch, cysylltwch â ni drwy e-bost (gweler isod) neu drwy ysgrifennu atom.