Modd Dysgu

Sut i droi'r Modd Dysgu ymlaen

Trowch y Modd Dysgu ymlaen drwy glicio'r botwm, sydd ar ben uchaf ochr dde'r dudalen ar gyfrifiadur neu ar waelod y ddewislen ar ddyfais symudol.

Botwm Modd Dysgu

Beth yw'r Modd Dysgu?

Mae'r Modd Dysgu yn cynnig mwy o wybodaeth ar gyfer plant a dysgwyr. Mae'n defnyddio lliw i amlygu rhannau ymadrodd, mae'n dangos sut mae gair yn treiglo, ac mae'n dangos y rhan ymadrodd a'r treigladau ar waith o fewn cyd-destun rhagenwau personol a chyfrif.

Modd Dysgu - Cath

Beth yw arwyddocâd y lliwiau?

Mae'r lliwiau yn amlygu rhannau ymadrodd penodol er mwyn cynorthwyo cofio sut mae'r gair yn ymddwyn. Mae'r dewis o liwiau yn dilyn y patrwm a luniwyd gan D.Geraint Lewis yn ei lyfr D.I.Y. Welsh (Gomer, 2018), sef:

enw gwrywaidd = noun masculine, e.g. bachgen
enw benywaidd = noun feminine, e.g. merch
enw lluosog =noun plural, e.g. newyddion
enw gwrywaidd neu fenywaidd = noun masculine or feminine, e.g. munud (sy'n amrywio rhwng Gogledd Cymru a'r De)
enw benywaidd neu wrywaidd = noun feminine or masculine, e.g. nyrs (sy'n amrywio yn ôl rhyw y person - anaml y gwelir y math yma o amrywiad)
ansoddair = adjective, e.g. bach
berfenw = verb-noun, e.g. canu