Ymadroddion (11)
A gwaedd y bechgyn lond y gwynt a'u gwaed yn gymysg efo'r glaw.
beddau wedi’u gwyngalchu
Nid oes dim yn gwneuthur pobl mor anghyfiawn â'u cyfiawnderau eu hunain
o blith:o blith (rhywrai):o’n (o’ch, o’u, a.y.b.) plith
Sylwch: dim ond ‘o’n plith’, ‘o’ch plith’, ‘o’u plith’ a’u defnyddir, does dim ffurfiau unigol
o’i gymharu â (rhywun neu rywbeth):o’i chymharu â (rhywun neu rywbeth):o’u cymharu â (rhywun neu rywbeth)
Prin yw'r rhai sy'n gweld â'u llygaid eu hunain ac yn teimlo yn eu calonnau eu hunain
rhwng (rhywun) a’i (a’u) botes:rhyngof fi (rhyngot ti, rhyngddo ef, a.y.b.) a’m (a’th, a’i, a.y.b.) potes
rhwng (rhywun) a’i (a’u) gawl:rhyngof fi (rhyngot ti, rhyngddo ef, a.y.b.) a’m (a’th, a’i, a.y.b.) cawl
tatws trwy’u crwyn
y beddau a’u gwlych y glaw