Rhagair i’r Gweiadur

Pan luniais Geiriadur Gomer yr Ifanc yr oeddwn yn dymuno llunio geiriadur a oedd yn diffinio geiriau Cymraeg yn Gymraeg (yn yr un ffordd ag y mae geiriaduron Saesneg yn diffinio geiriau Saesneg). Ond yn ogystal â diffinio geiriau, yr oeddwn hefyd yn ceisio cynnig gwybodaeth am bethau oedd wedi achosi trafferthion i fi pan oeddwn i’n dysgu Cymraeg, e.e. sawl ‘n’ sydd yn gofynnodd, beth yw ystyr fraith, beth yw ceir, pa dreiglad sy’n dilyn ni. Gwybodaeth ar gyfer y sawl sy’n ysgrifennu Cymraeg.

Yr hyn nad oeddwn wedi gallu’i wneud oedd cynnig yr un fath o gymorth i rywun a oedd yn darllen Cymraeg. Yr oeddwn i er enghraifft wedi cael fy swyno gan farddoniaeth T Gwynn Jones, ond yn anffodus doeddwn i ddim yn deall llawer ohoni a doedd gennyf ddim unman i droi am gymorth. Yr oedd y problemau’n rhai mawr – geirfa gyfoethog ac anarferol, ffurfiau berfol anarferedig a’r cyfan yn newid yn ôl gofynion y treigladau.

Pan ddechreuais ar y gwaith o ehangu geiriadur pobl ifanc i fod yn eiriadur i bawb, lluniodd Nudd fy mab gronfa ddata yn seiliedig ar ymgais (aflwyddiannus)  i greu geiriadur ar ffurf CDRom. Yn raddol, drwy waith Nudd, daeth yn gliriach bod yna ffordd i fynd i’r afael â phroblemau darllen y Gymraeg, a hynny drwy gyfrwng geiriadur electronig.

Yr hyn a geir yn Gweiadur Pawb yw geiriadur sy’n diffinio geiriau Cymraeg ar gyfer pawb. Ond mae geiriadur electronig yn gallu cynnwys llawer iawn mwy o wybodaeth na’r hyn a fyddai’n bosibl mewn llyfr. Mae’r geiriadur hwn yn rhoi ystyr ffurfiau fel ery, thery, ddêl, etc. a geir yn y darn:

Draw dros y don mae bro dirion
Nad ery cwyn yn ei thir ac yno ni thery
etc.

gan droi Gweiadur Pawb yn eiriadur i’r rhai sy’n darllen Cymraeg yn ogystal a’i hysgrifennu.

Yr ydym yn ddiolchgar i’r Dr Dyfed Elis Gruffydd am ei gymorth ar hyd y blynyddoedd gyda’r gwaith hwn.

D.Geraint Lewis
Nudd Lewis