Ynghylch yr Awduron

D. Geraint Lewis

Yn frodor o Ynys-y-bwl, cafodd Geraint Lewis ei addysgu yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Pontypridd, a Choleg y Brifysgol Aberystwyth. Mae'n eiriadurwr toreithiog, ac yn awdur nifer o lyfrau iaith hynod ddefnyddiol megis Geiriadur Cymraeg Gomer, Geiriadur Gomer i'r Ifanc (enillydd Gwobr Tir Na N'og am lyfr plant gorau'r flwyddyn (ac eithrio ffuglen), Geiriadur Cynradd Gomer, Y Llyfr Berfau, Pa Arddodiad?, Y Treigladur, a Geiriau Lletchwith. Ffrwyth ei ddiddordebau cerddorol yw'r casgliad safonol o ganeuon gwerin Cân Di Bennill.

Nudd Lewis

Yn dilyn ei gyfnod yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth bu'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio busnes. Ymunodd â staff Bwrdd yr Iaith fel swyddog cyllid a thechnoleg gwybodaeth, a mynychu dosbarthiadau cynghanedd gan gymryd rhan mewn ambell gystadleuaeth Talwrn y Beirdd. Ar ôl gadael Bwrdd yr Iaith mae wedi dilyn gyrfa ym maes datblygu meddalwedd cyfrifiadurol, gan gyrraedd swydd uwch-reolwr prosiectau ar gyfer meddalwedd yswiriant a phensiwn, cyn sefydlu busnes Gwerin - sy'n datblygu meddalwedd dwyieithog ar gyfer cwmnïau ac addysg. Mae wedi ysgrifennu dau eiriadur gyda'i dad, D. Geraint Lewis - Geiriadur Cymraeg Gomer a'r gyfrol Reading Welsh: An Essential Companion. Mae'n hoffi arbrofi gyda thechnoleg a chyda defnyddio technoleg i wneud hynodion y Gymraeg yn fwy hygyrch.

Llyfryddiaeth

Mae'r adnodd hwn yn seiliedig ar y llyfryddiaeth isod.

llun o Geiriadur Cymrag Gomer

Geiriadur Cymraeg Gomer

D. Geraint Lewis, Nudd Lewis
Gomer, 2016, 2020

Geiriadur Cymraeg cyfoes a chynhwysfawr sy'n cynnwys dros 45,000 o ddiffiniadau Cymraeg, 38,000 o eiriau Saesneg a 12,000 o dermau technegol - geiriadur angenrheidiol ar gyfer pawb sy'n defnyddio neu'n dysgu'r Gymraeg.

llun o Reading Welsh

Reading Welsh - An Essential Companion

D. Geraint Lewis, Nudd Lewis
Gomer, 2014

Geiriadur-gydymaith cynhwysfawr o eiriau Cymraeg yn eu ffurfiau amrywiol (benywaidd, lluosog ac wedi treiglo) wedi eu paratoi i gynorthwyo Dysgwyr a'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.

llun o D.I.Y. Welsh

D.I.Y. Welsh - Sut i Adeiladu Brawddegau Cymraeg Gam wrth Gam

D. Geraint Lewis
Gomer, 2018

Canllaw cam-wrth-gam i greu brawddegau Cymraeg, gydag ymarferion a geirfa.

llun o Ar Flaen fy Nhafod

Ar Flaen fy Nhafod - Casgliad o Ymadroddion Cymraeg

D. Geraint Lewis
Gomer, 2012

Cyfrol werthfawr gan feistr geiriau, sef casgliad o briod-ddulliau, geiriau unigryw ac ymadroddion amrywiol Cymraeg difyr.

llun o Yr Ansoddeiriau

Yr Ansoddeiriau - A Comprehensive Collection of Welsh Adjectives

D. Geraint Lewis
Y Lolfa, 2021

Cyfrol yn dynodi gwahanol ffurfiau'r ansoddair Gymraeg. Arf defnyddiol ar gyfer holl ddefnyddwyr yr iaith.

llun o Yr Arddodiaid

Yr Arddodiaid - A Comprehensive Collection of Welsh Prepositions

D. Geraint Lewis
Y Lolfa, 2021

Llyfryn diddorol yn cynnwys rhestr gynhwysfawr a defnyddiol o arddodiaid Cymraeg sy'n aml yn peri anhawster i ysgrifenwyr Cymraeg.

llun o Y Geiriau Lletchwith

Y Geiriau Lletchwith - A Check-List of Irregular Word Forms and Spelling

D. Geraint Lewis
Gomer, 1997

Rhestr gynhwysfawr a defnyddiol o eiriau Cymraeg lletchwith ac afreolaidd, yn enwau ac ansoddeiriau, berfau a berfenwau sy'n aml yn peri i ysgrifenwyr betruso'n ynghylch sillafiad, acenion a chysylltnodau.

llun o Berfau

Berfau - A Check-List of Welsh Verbs

D. Geraint Lewis
Gomer, 1995; Y Lolfa 2021

Cyfrol ddwyieithog yn cynnwys rhediadau llawn dros fil o ferfau Cymraeg a fydd yn gaffaeliad i'r dysgwr a'r Cymro Cymraeg fel ei gilydd.

llun o Y Treigladur

Y Treigladur - A Check-List of Welsh Mutations

D. Geraint Lewis
Gomer, 2018

Rhestr o eiriau Cymraeg sy'n achosi treiglad, a chrynodeb o'u prif reolau, ynghyd ag eglurhad o'r termau gramadegol a ddefnyddir.