Gweiadur yn helpu gwella Google Translate ar gyfer y Gymraeg

Fel rhan o brosiect i wella canlyniadau Google Translate (http://translate.google.com/?hl=cy) ar gyfer nifer o ieithoedd lleiafrifol, mae tîm y Gweiadur wedi bod yn cynorthwyo Google i ehangu’n sylweddol yr eirfa Gymraeg sydd ar gael i’w broses gyfieithu peirianyddol.

Cyfrannwyd bron i 700,000 o barau cyfatebol o eiriau Cymraeg a Saesneg, a thros y misoedd nesaf, bydd tîm cyfieithu Google yn gweithio i ymgorffori’r rhain i Google Translate ar gyfer y Gymraeg ac yn gwella’u halgorithmau cyfieithu.

Ar hyn o bryd, nid yw cyfieithu peirianyddol, yn gyffredinol, wedi cyrraedd lefel lle gellir dibynnu’n llwyr ar ansawdd y canlyniadau (ac yn wir, mae’n destun trafod hir a dwys p’run a fydd hynny byth yn bosibl). Ond mae’r canlyniadau yn sicr yn cyrraedd yn nes o hyd at lefel lle gellir eu defnyddio at bwrpas personol i ddeall swmp testun mewn iaith estron, neu i baratoi drafft cychwynnol o gyfieithiad. Mae defnydd o’r math yma yn bwysig er mwyn cynyddu hygyrchedd yr iaith ac agor drysau i ddefnyddwyr a dysgwyr newydd.

Ac efallai mai dyma’r lefel y dylem fod yn anelu ato. Oni fyddai’n dlotach byd petai’r gwaith dehongli, deall ac ailfynegi mewn cyd-destun cymdeithasol, diwylliannol a hanesyddol gwahanol y mae cyfieithydd proffesiynol yn ei gynnig, yn cael ei ddisodli gan gyfieithiadau “cywir”, ond caeth a digymeriad gan beiriant?