Beth sy’n wahanol am y Gweiadur?

Mae’n diffinio pob gair yn Gymraeg.
Mae’n cynnwys priod-ddulliau a geiriau cyfansawdd.
Yn ogystal â chynnig geiriau Saesneg cyfatebol ceir adran Saesneg/Cymraeg.
Gellir newid iaith y sgrin i’r Saesneg.

Enwau

Cenedl – cynigir y genedl amlaf ei defnydd;
Nodir os yw’r genedl yn wahanol yn y Gogledd a’r De, e.e. munud;
Nodir os yw gwahanol genedl yn dynodi gwahanol ystyr, e.e. ewyllys;
Nodir os yw cenedl yn newid gyda rhyw’r gwrthrych, e.e. nyrs;
Lluosog – cofnodir ffurfiau luosog yn annibynnol;
Mae pob un o’r cofnodion uchod yn chwiliadwy yn eu holl ffurfiau treigledig.

Berfau

Ffurfiau cryno – mae pob berf (y mae ganddi ffurfiau cryno) yn cael eu rhedeg yn llawn yn ei ffurf ffurfiol ac yn ei ffurf anffurfiol ym mhob Amser:

  • Presennol/Dyfodol
  • Gorffennol
  • Amhenodol
  • Gorberffaith
  • Gorchmynnol
  • Dibynnol

Arddodiaid – nodir yr arddodiaid sy’n arfer dilyn berfenw;
Nodir ystyron Saesneg y ffurfiau berfol;
Mae pob un o’r cofnodion yn chwiliadwy yn eu holl ffurfiau treigledig, e.e. herys, ddelo.

Ansoddeiriau

Cofnodir ffurfiau benywaidd a lluosog, e.e. braith, gleision;
Cofnodir y ffurfiau ‘cyn’ (wlyped) ‘yn’ (wlypach) ‘y’ (gwlypaf);
Nodir os yw ansoddair yn dod o flaen neu’n dilyn enw, e.e. hen;
Nodir yr achosion hynny lle mae ystyr yr ansoddair yn newid yn ôl ei leoliad, e.e. plentyn unig, unig blentyn;
Mae pob un o’r cofnodion yn chwiliadwy yn eu holl ffurfiau dreigledig, e.e. fraith, felen, wlypach.

Is-benawdau ac Ymadroddion

Nodir llawer iawn o’r rhain, e.e. mae cofnod asgwrn. yn cynnwys: asgwrn cefn, asgwrn cyfelin, asgwrn cynffon, asgwrn i grafu, asgwrn parwydol, asgwrn y cwman, asgwrn y forddwyd, asgwrn y gedor, asgwrn y grimog, ac ati.

Nodiadau Defnydd

Rhestrir llawr iawn o’r wybodaeth a gasglwyd wrth lunio cyfrolau ar y berfau, ansoddeiriau, arddodiaid ac yn fwyaf arbennig y treigladau i gynnig cyngor yn y meysydd hyn ar ffurf nodyn Sylwch.