Polisi Briwsion

Ffeil fechan o destun wedi ei storio ar eich cyfrifiadur neu ddyfais symudol gan eich porwr yw briwsionyn ("cookie"). Mae'n caniatáu i wefan eich adnabod chi a/neu eich dyfais rhwng diweddariadau tudalen. Heb friwsion ni fyddai gwefan yn medru'ch cadw wedi eich mewngofnodi wrth i chi symud o dudalen i dudalen.

Mae rhai gwefannau yn defnyddio briwsion i gyfoethogi eich profiad fel defnyddiwr, e.e. drwy gofio eich gosodiadau; i ddadansoddi perfformiad, e.e. drwy gofnodi pa dudalennau neu ddolenni sy'n boblogaidd; ac i dargedu negeseuon marchnata a hysbysebu, e.e. yn ôl lleoliad neu arferion pori.

Oherwydd bod y wefan hon yn gofyn i chi fewngofnodi i'w defnyddio, bydd cyfyngu gallu eich porwr i dderbyn briwsion yn ei hatal rhag gweithio.

Ond os hoffech gyfyngu gallu eich porwr i dderbyn rhai mathau o friwsion, neu briwsion yn gyfan gwbl, gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr (cyfeiriwch at dudalennau cymorth eich porwr.)

Defnyddiwn friwsion angenrheidiol i'ch adnabod rhwng llwytho tudalennau. Mae cynnwys y briwsion yma yn cael eu hamgryptio ac nid ydynt yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellir ei defnyddio i'ch adnabod. Byddwn hefyd yn defnyddio briwsion i gofio'ch gosodiadau.

O bryd i'w gilydd gallwn hefyd ddefnyddio Google Analytics, gwasanaeth gan Google Inc. sy'n gosod briwsion er mwyn gwerthuso defnydd gwefan y Gweiadur. Gallwch eithrio eich hun o dderbyn briwsion Google Analytics heb effeithio gweithrediad y Gweiadur.

Ni fyddwn yn gwerthu na rhannu gyda unrhyw drydydd parti unrhyw wybodaeth a gesglir drwy friwsion (heblaw lle mae hynny'n ofynnol drwy gyfraith.)